Canlyniadau graddau lefel Uwch ac Uwch Gyfrannol yn adlewyrchiad o broffesiynoldeb athrawon a darlithwyr
13 Awst 2015
Canlyniadau graddau lefel Uwch ac Uwch Gyfrannol yn adlewyrchiad o broffesiynoldeb athrawon a darlithwyr sydd yn rhoi myfyrwyr yn gyntaf
"Mae UCAC yn llongyfarch y myfyrwyr chweched dosbarth ac addysg bellach sydd wedi derbyn ei graddau lefel Uwch ac Uwch Gyfrannol heddiw. Mae llwyddiant y myfyrwyr yn adlewyrchiad o'u gwaith caled a gwaith caled eu hathrawon a'u darlithwyr trwy gydol eu hamser mewn ysgol neu goleg", medd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC.