Cyhoeddi adroddiad ar y Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol
24 Mehefin 2015
UCAC yn cyhoeddi adroddiad ar y Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol
Yn dilyn trydydd rownd y profion darllen a rhifedd cenedlaethol, a gynhaliwyd ym mis Mai eleni, holodd UCAC barn aelodau ynghylch gwahanol agweddau o’r profion.
Cyfarfodydd Cymdeithasau Sir UCAC
12 Mehefin 2015
Cyfarfodydd Cymdeithasau Sir UCAC
Mae swyddogion maes UCAC yn cyfarfod aelodau ym mhob rhan o Gymru ar hyn o bryd yn y cylch tymhorol o gyfarfodydd sirol.
Canlyniadau Arolwg Gweithio'n Hirach UCAC
8 Mehefin 2015
Canlyniadau Arolwg Gweithio'n Hirach UCAC
Mae UCAC wedi cynnal arolwg sy'n edrych ar deimladau'n haelodau wrth wynebu'r posibilrwydd o weithio'n hirach. Mae'r Undeb wedi mynychu nifer o gyfarfodydd yn San Steffan ble mae'r llywodraeth, ar y cyd gyda'r undebau athrawon a'r rhai sy'n cynrychioli'r cyflogwyr, wedi bod yn ystyried oblygiadau gweithio'n hynach.
Deg mlynedd o gefnogaeth i Eisteddfod yr Urdd
1 Mehefin 2015
Deg mlynedd o gefnogaeth i Eisteddfod yr Urdd
Fel Undeb rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod eleni wedi cefnogi Eisteddfod yr Urdd am y degfed flwyddyn yn olynol. Derbyniodd Llywydd UCAC, Ioan Rhys Jones, dystysgrif gan Rhun Dafydd, Llywydd yr Urdd eleni, yn cydnabod y gefnogaeth honno.
Galw ar Lywodraeth San Steffan i flaenoriaethu byd addysg
11 Mai 2015
Galw ar Lywodraeth San Steffan i flaenoriaethu ariannu byd addysg
Yn y Sunday Times ddoe cyhoeddwyd llythyr agored i'r Llywodraeth Geidwadol newydd gan UCAC ag undebau eraill sydd yn cynrychioli athrawon a darlithwyr ar draws Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Galwodd UCAC, ATL, EIS, INTO, NAHT, NUT, SSTA, UCU, UTU, ar y Llywodraeth i flaenoriaethu ariannu byd addysg gan ddwyn sylw at bwysigrwydd addysg nid yn unig i ddisgyblion a myfyrwyr o bob oedran, ond hefyd er mwyn tyfiant yr economi.