Wythnos o weithredu: HeartUnions, 8-14 Chwefror 2016
3 Chwefror 2016
Wythnos o Weithredu: HeartUnions, 8-14 Chwefror 2016
Mae HEARTUNIONS yn rhan o weithgareddau ehangach i amddiffyn undebau llafur rhag ymosodiadau mileinig Bil Undebau Llafur Llywodraeth San Steffan.
Y Chwe Gwlad 2016
2 Chwefror 2016
Cynnig arbennig i aelodau UCAC i gyd-fynd â Phencampwriaeth Y Chwe Gwlad.
Ydych chi'n teithio i Ddulyn penwythnos yma neu'n mentro i Lundain i wylio'r gêm fawr yn erbyn Lloegr ar 12 Mawrth? Beth am fanteisio ar gynnig arbennig o 10% i ffwrdd ar gerdyn hamdden i fwynhau prif atyniadau'r dinasoedd a gostyngiad mewn bwytai amrywiol?
UCAC yn galw am hyfforddiant ym maes Technoleg Gwybodaeth ar frys
26 Ionawr 2016
UCAC yn galw am hyfforddiant ym maes Technoleg Gwybodaeth ar frys
Yn sgil cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Estyn 2014-15 heddiw, mae undeb athrawon UCAC yn galw am sylw brys i faes Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) a chymhwysedd digidol.
Datganiad Cyd-Undebol i'r Corff Arolygu Athrawon Ysgol (STRB)
11 Ionawr 2016
Toriadau i gyllidebau yn mynd i gael effaith ar safon athrawon
Mae undebau addysg ac arweinwyr ysgol wedi uno heddiw mewn datganiad at y Corff Arolygu Athrawon Ysgol (STRB), gan rybuddio bod y Llywodraeth yn mentro tanseilio safonau addysgu o ganlyniad i'r lleihad, mewn termau real, i'r gyllideb addysg a'r erydiad parhaol i gyflogau athrawon.
Colli cyfle o ran y Gymraeg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol
17 Rhagfyr 2015
Colli cyfle o ran y Gymraeg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol
Dylai darpariaeth cyfrwng Cymraeg fod yn elfen greiddiol a chanolog o ddeddfwriaeth newydd arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer maes Anghenion Dysgu Ychwanegol ac nid ystyriaeth ymylol fel sydd ar hyn o bryd.